Dyn a bachgen dan 13 yn gorwedd ar eu bol ar y gwair, ac yn edrych ar ei gilydd yn gwenu.

Annog ymddygiad cadarnhaol – o blant bach i bobl ifanc

Nod rhianta cadarnhaol yw meithrin perthynas gref a chadarn gyda'ch plentyn, gan ei helpu i deimlo’n ddiogel, a’i fod yn cael ei ddeall a'i gefnogi. Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy strategaethau magu plant cadarnhaol ar gyfer pob cam o ddatblygiad eich plentyn, o blentyn bach i blentyn ifanc yn ei arddegau. 

Jump to:

Gall magu plant fod yn un o’r pethau mwyaf gwerth chweil, a heriol, a wnewch chi fyth. O strancio i brofi ffiniau, mae pob plentyn yn ymddwyn mewn ffordd a allai wneud i chi deimlo'n ansicr, yn rhwystredig neu’n flinedig. Ond cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun, ac nid oes y fath beth â rhiant perffaith. 

Rydyn ni eisiau eich helpu chi i feithrin perthynas llawn ymddiriedaeth gyda'ch plentyn, er mwyn iddo deimlo'n ddiogel, ei fod yn cael ei ddeall a'i gefnogi ar bob cam. Mae gennym strategaethau magu plant cadarnhaol ar gyfer pob cam o ddatblygiad eich plentyn, o blentyn bach i berson ifanc yn ei arddegau. Mae hyn yn cynnwys awgrymiadau ymarferol, pethau i fyfyrio arnyn nhw a dolenni i adnoddau dibynadwy. Rydych chi’n gallu gwneud hyn.  

Beth yw rhianta cadarnhaol a sut gall hynny helpu?

Mae rhianta cadarnhaol yn gweld ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu. Pan fydd plant yn cambihafio neu'n cael trafferth, maen nhw'n aml yn ceisio mynegi emosiynau nad ydyn nhw'n gallu eu rhoi mewn geiriau. P'un a yw'n ffrwydrad amser gwely neu'n gwrthod dilyn rheolau, mae eich plentyn yn ceisio dweud rhywbeth wrthych chi.  

Drwy ddeall beth sydd wrth wraidd yr ymddygiad, gallwch ymateb mewn ffyrdd sy'n helpu eich plentyn i ddysgu rheoli ei hun, cymryd cyfrifoldeb, empathi a gwneud dewisiadau gwell. 

Dyma brif elfennau rhianta cadarnhaol: 

  • Peidio â chynhyrfu a bod yn amyneddgar, hyd yn oed ar adegau heriol 
  • Gosod ffiniau clir a chyson sy'n helpu eich plentyn i deimlo'n ddiogel 
  • Gwrando ar deimladau eich plentyn a'u dilysu 
  • Rhoi canmoliaeth ac anogaeth i fagu hyder 
  • Modelu’r ymddygiad rydych chi eisiau ei weld gan eich plentyn 

Mae rhianta cadarnhaol yn helpu eich plentyn i deimlo ei fod yn cael ei garu a'i gefnogi, gan greu'r sylfaen ar gyfer datblygiad emosiynol iach a chysylltiadau teuluol cryf.

Rhianta cadarnhaol: strategaethau yn ôl grŵp oedran

Mae pob plentyn yn datblygu ar ei gyflymder ei hun, ac er bod oedran yn gallu ein helpu i ddeall patrymau cyffredinol, mae'n bwysig canolbwyntio ar anghenion unigol eich plentyn, nid dim ond y rhif. Defnyddiwch yr adran hon fel canllaw i’ch cefnogi, nid llyfr rheolau.

Plant bach (1-3 oed)

Mae plant bach yn dysgu deall a mynegi emosiynau mawr, yn aml heb y geiriau i'w hegluro. Gall fod yn ddefnyddiol - ond nid yw bob amser yn hawdd  - meddwl am yr hyn maen nhw'n ceisio ei ddweud wrthych chi yn hytrach na gweld y ffordd maen nhw'n ymddwyn fel 'bod yn ddrwg'.  

Cyn i chi ymateb i ymddygiad heriol, gall helpu i gymryd eiliad ac ystyried ychydig o gwestiynau syml. Ydy eich plentyn wedi blino, eisiau bwyd neu wedi'i orysgogi? Ydy eich disgwyliadau'n realistig ar gyfer ei oedran a'i gyfnod datblygu? Ac yr un mor bwysig, sut ydych chi'n teimlo yn y foment honno? Pan fyddwn yn cymryd eiliad i fyfyrio, gallwn ymateb gyda mwy o amynedd a dealltwriaeth, hyd yn oed pan fydd emosiynau'n uchel. 

Ffocws rhianta cadarnhaol: 

  • Deall bod strancio yn normal ac yn briodol yn ddatblygiadol. 
  • Cefnogi angen eich plentyn bach am strwythur a diogelwch drwy arferion rheolaidd. 
  • Cynnig ymatebion tawel, hyd yn oed pan fydd yn cael ei lethu. Mae peidio â chynhyrfu yn ei helpu i dawelu. 
  • Enwi a dilysu ei deimladau: Rwyt ti’n drist oherwydd bod amser chwarae wedi dod i ben. Dwi’n deall.” 

Rhowch gynnig ar hyn: 

  • Rhoi dewisiadau syml y gellir eu rheoli: Wyt ti eisiau'r gwpan goch neu'r un las?”  
  • Ceisio osgoi ymateb yng ngwres y funud, cyfrifwch i 10 os oes angen amser arnoch. 
  • Peidio â disgwyl iddo wrando ar resymeg wrth strancio. Arhoswch, gadaewch iddo dawelu, a dangos eich bod chi'n deall sut mae'n teimlo, yna esbonio.  Er enghraifft, os bydd eich plentyn bach yn strancio oherwydd ei bod hi’n amser rhoi'r gorau i chwarae, peidiwch â cheisio rhesymu ar unwaith. Arhoswch yn bwyllog nes ei fod wedi tawelu, yna dweud, 'Dwi'n gwybod dy fod di’n cael hwyl a ddim eisiau stopio, ac rwyt ti’n drist dy fod di’n gorfod ffarwelio â dy ffrind. Mae'n iawn bod yn drist pan fydd hwyl yn dod i ben a phan fyddi di’n colli rhywun. Fe wnawn ni ddod at ein gilydd a chwarae gyda nhw rywbryd eto.” 

Rhowch wybod iddo fod eich cariad yn gyson, hyd yn oed pan fydd ei ymddygiad yn anodd.

Plant (4 – 8 oed)

Wrth i blant dyfu, maen nhw'n dechrau deall rheolau, emosiynau a disgwyliadau cymdeithasol ond mae angen arweiniad, sicrwydd a hyfforddiant emosiynol arnyn nhw o hyd. 

Ffocws rhianta cadarnhaol: 

  • Helpwch eich plentyn i enwi ei deimladau a deall sut maen nhw'n effeithio ar ymddygiad. Er enghraifft, os bydd eich plentyn yn gweiddi ar ôl i chi ddweud bod ei amser o flaen sgrin wedi dod i ben, efallai y byddwch chi'n dweud:  "Mae'n edrych fel dy fod yn teimlo'n rhwystredig iawn oherwydd dy fod eisiau dal ati i wylio. Dwi'n deall hynny, mae'n anodd stopio rhywbeth sy'n hwyl. Ond, dydy gweiddi ddim yn helpu. Beth am i ni anadlu a siarad am y peth." 
  • Defnyddio empathi i feithrin ymddiriedaeth: “Dwi'n gallu gweld dy fod di'n ypset, gawn ni siarad am y peth gyda'n gilydd?” 
  • Canmol ymdrech, nid perffeithrwydd: “Fe wnes i dy weld di’n ceisio rhannu, roedd hynny'n garedig.” 

Rhowch gynnig ar hyn:

  • Peidio â chynhyrfu a modelu’r ymddygiad rydych chi eisiau ei weld. 
  • Creu rheolau syml ar gyfer y teulu gyda'ch gilydd fel ei fod yn teimlo ei fod yn cael ei gynnwys. 
  • Defnyddio systemau gwobrwyo sy'n dathlu cynnydd, fel siartiau sticeri neu jariau i’ch plentyn eu llenwi â phom poms neu basta. 

Siarad ar ôl adegau anodd: “Y tro nesaf, beth allen ni ei wneud yn wahanol?” 

Pobl ifanc ‘tweens’ (9–12 oed)

Yn y blynyddoedd hyn, mae eich plentyn yn tyfu'n gyflym yn gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol. Mae eisiau mwy o annibyniaeth, ond mae angen cefnogaeth gref gan ei rieni a ffiniau clir arno o hyd. 

Ffocws rhianta cadarnhaol: 

  • Cyfathrebu’n agored, gwrando mwy nag yr ydych yn siarad. 
  • Esbonio'n bwyllog ac yn sensitif pam, er enghraifft, mae amser gwely ac amser cyfyngedig o flaen sgrin yn bwysig ar gyfer datblygiad iach a'i gynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae plant yn fwy tebygol o ddilyn trefn a ffiniau maen nhw'n helpu i'w creu. 
  • Helpu eich plentyn i enwi sut mae'n teimlo. Er enghraifft, os yw eich plentyn yn dadlau neu'n gwthio gwaith cartref yn ôl, gallech ddweud:  "Mae'n swnio fel dy fod di’n teimlo'n rhwystredig neu wedi dy lethu gan waith cartref ar hyn o bryd. Mae hynny’n gwbl normal. Beth am i ni weld beth sy'n gwneud pethau’n anodd a gweld sut gallaf i helpu." 
  • Rhowch wybod iddo ei bod hi'n iawn gwneud camgymeriadau ac nad yw eich cariad yn dibynnu ar berffeithrwydd. Os bydd yn gwneud camgymeriad neu ddewis gwael, rhowch wybod iddo mai'r weithred rydych chi’n anhapus yn ei chylch, nid nhw. Yn aml yn yr oedran hwn, gall plant fod yn galed iawn arnyn nhw eu hunain am wneud camgymeriad. 
  • Bod yn lle diogel iddyn nhw, hyd yn oed pan fyddan nhw'n eich gwthio i ffwrdd. 

Rhowch gynnig ar hyn: 

  • Gosod disgwyliadau realistig sy'n cyd-fynd â'i gam datblygiadol. 
  • Cydnabod ei gryfderau a'i drafferthion. 
  • Myfyrio ar eich ymatebion eich hun, ydych chi'n bwyllog, yn gyson ac yn glir? 

Treuliwch amser un-i-un yn rheolaidd, mae hyd yn oed 15 munud y dydd yn adeiladu cysylltiad.

Pobl ifanc (13–18 oed)

Mae blynyddoedd yr arddegau yn dod â thwf cyflym, emosiynau sy’n newid, a thynfa gref at annibyniaeth. Gall y cam hwn fod yn gyffrous ac yn heriol i deuluoedd. Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn ffurfio eu hunaniaeth, yn archwilio ffiniau, ac yn datblygu eu barn eu hunain am y byd, ond mae angen eich presenoldeb, eich arweiniad a'ch cefnogaeth arnyn nhw yn fwy nag erioed. 

Ffocws rhianta cadarnhaol: 

  • Cadw mewn cysylltiad drwy ddangos diddordeb ym mywyd eich plentyn, hyd yn oed pan fydd yn ymddangos fel pe bai'n eich gwthio i ffwrdd. 
  • Cyfathrebu'n agored, yn onest ac yn barchus, gwrando heb ruthro i feirniadu na datrys pethau. 
  • Gosod ffiniau clir am bethau fel amser o flaen sgrin, cyrffyw a chyfrifoldebau, ond byddwch yn barod i drafod ac addasu. 
  • Dilysu ei deimladau, hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno â'i safbwynt. 

Rhowch gynnig ar hyn: 

  • Parchu ei angen cynyddol am annibyniaeth a pharhau i ddarparu strwythur a chefnogaeth. 
  • Dewis eich brwydrau. Canolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig ar gyfer ei ddiogelwch a'i lesiant. 
  • Bod ar gael. Yn aml, bydd pobl ifanc yn eu harddegau eisiau siarad pan fydd hynny leiaf cyfleus. Ceisiwch fod yn agored pan fyddan nhw'n dod atoch chi. 
  • Eu hatgoffa eich bod chi'n falch o bwy ydyn nhw, nid dim ond beth maen nhw'n ei gyflawni. 
  • Modelu sut i reoli gwrthdaro, cymryd cyfrifoldeb, a siarad am deimladau'n bwyllog ac yn agored.

Efallai na fydd pobl ifanc yn eu harddegau bob amser yn ei ddangos, ond mae eich barn a'ch cymeradwyaeth yn dal yn bwysig iddyn nhw. Mae eich presenoldeb cyson a digynnwrf yn eu helpu i deimlo'n ddiogel wrth iddyn nhw ddelio â phwysau ffrindiau, yr ysgol, cyfryngau cymdeithasol a hunaniaeth. 

Waeth pa mor hen yw eich plentyn, gwnewch amser i fyfyrio ar sut rydych chi'n teimlo. 

Drwy gydol eich taith magu plant, treuliwch funud yn myfyrio ar ymddygiad eich plentyn ac ar eich ymatebion eich hun. Gofynnwch i chi eich hun: 

  • Beth allai fy mhlentyn fod yn ceisio ei ddweud wrthyf gyda'r ymddygiad hwn? 
  • Sut ydw i’n teimlo ar hyn o bryd? 
  • Ydw i'n disgwyl mwy na’r hyn mae fy mhlentyn yn barod ar ei gyfer yn ddatblygiadol? 
  • Sut alla i fodelu ymddygiad tawel a pharchus, hyd yn oed pan fydda i'n teimlo'n rhwystredig? 

Cofiwch, mae'n normal i bethau beidio â mynd yn ôl y bwriad, i ffiniau gael eu profi, i drefn arferol deimlo'n heriol, ac i emosiynau fod yn gryf. Credwch yn eich gallu i fod yn rhiant da, a chydnabod ei bod yn iawn os nad yw pethau'n berffaith bob amser. Gallwch roi cynnig arall arni bob amser. Cymerwch un cam ar y tro, mae'n debyg eich bod chi’n gwneud yn well na'r hyn rydych chi'n ei feddwl. 

Angen mwy o gymorth?

Os ydych chi’n cael eich llethu, does dim rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun. Dyma ambell le y gallwch chi fynd i gael cymorth 

  • Yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, efallai y byddwch chi'n gallu cael help a chyngor ar iechyd plant a theuluoedd a magu plant, ymysg pethau eraill, gan Ganolfan Cychwyn Cadarn, Canolfan Blant neu Ganolfan Deulu. 
  • Eich meddyg neu'ch ymwelydd iechyd. Efallai y byddan nhw'n gallu awgrymu strategaethau i geisio eich cyfeirio at sefydliadau a allai eich cefnogi. 
  • Os ydych chi'n poeni am iechyd meddwl neu lesiant eich plentyn, mae’r elusen Young Minds yn cynnig cymorth i rieni. Mae ganddyn nhw hefyd gyngor i rieni a gofalwyr ar reoli ymddygiad heriol

Mae gan y GIG gyngor ar ddelio â phroblemau ymddygiad plant.

Mae tad sy'n gwisgo cap pig tu nôl ymlaen a chrys gwyn yn dal ei ferch fach sy'n gwisgo wynsi pinc. Mae'r ddau ohonyn nhw'n gwenu. Mae coed i’w gweld yn y cefndir.

Meithrin perthnasoedd teuluol iachach

Mae gan bobl ffyrdd, safbwyntiau ac emosiynau gwahanol o ran delio â straen, felly mae’n naturiol bod anghytuno’n digwydd. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut mae’r gwrthdrawiadau hyn yn cael eu rheoli. Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw gwrthdaro rhwng rhieni, beth sy’n ei achosi, a sut i’w leihau yn eich teulu.

Mam yn gwisgo sbectol gyda gwallt tywyll a chrys streipiog yn eistedd ar lawr ystafell wely plentyn yn edrych ar ei merch sydd â gwallt tywyll, sbectol a chrys llwyd amdani. Maen nhw'n gwenu ar ei gilydd. Mae bachgen ifanc gyda sbectol a gwallt tywyll i'w weld ychydig yn yr ymyl dde isaf.  

"Datblygu ymennydd iach

P’un a yw eich plentyn yn fabi neu yn ei arddegau, gallwch helpu ei ymennydd i ddatblygu a gweithredu ar ei orau. Rydyn ni wedi ymuno â KCA, arbenigwyr niwrowyddoniaeth, i rannu dull syml ac effeithiol y gallwch ddechrau ei ddefnyddio heddiw.

Mae dwy chwaer yn chwarae'r gêm gardiau Uno ar lawr eu hystafell wely. Mae un chwaer gydag un blethen hir yn eistedd ac yn chwerthin wedi iddi roi cerdyn i lawr, ac mae'r llall wedi taflu ei hun i'r llawr mewn sioc.  

Atal brodyr a chwiorydd rhag ffraeo

Hyd yn oed pan fydd plant yn caru eu brodyr a’u chwiorydd ac yn cyd-dynnu â nhw, gallwch ddisgwyl rhywfaint o wrthdaro. Darllenwch gyngor i’ch helpu i arwain eich plant drwy gyfnodau da a drwg yn eu perthynas â’u brodyr a’u chwiorydd.

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. 

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.